top of page

Those precious minutes between waking and getting up.

Proud grandfather

Wynford Ellis Owen

26 May 2026

Positive affirmations

Yr eiliadau prin rheini rhwng deffro a chodi….


Ro’n i’n arfer deffro yn y bore hefo’r hen deimlad annifyr ‘na bod rhywbeth yn mynd i fynd o’i le heddiw.

Dros amser, mi sylweddolais i nad oedd neb arall yn mynd i newid y ffordd ro’n i’n teimlo; bod rhaid imi wneud hynny drosof fi fy hun.

Mae’r eiliadau prin rheini rhwng deffro a chodi yn holl bwysig. Felly, mi ddechreuais i ddweud wrtha fi fy hun - unwaith ro’n i’n effro –


“Ma’ heddiw yn mynd i fod yn ddiwrnod gora’ ‘mywyd i. Ma’ popeth yn mynd i lifo’n rhwydd. Ma’ popeth yn mynd i weithio allan yn union fel ma’ nhw i fod. Dwi’n mynd i fod yn hapus, llawen a rhydd; dwi’n mynd I fod yn hollol gyfforddus yn fy nghroen i fy hun. Ma’ heddiw’n mynd i fod yn ddiwrnod gora’ ‘mywyd i.”


Yn fuan wedyn, wedi imi ddweud hyn bob bore yn ddiffael am bythefnos, dechreuais ddeffro gan deimlo’n obeithiol a chadarnhaol am y diwrnod i ddod.


Mae’r eiliadau prin rheini rhwng deffro a chodi yn holl bwysig – defnyddiwch nhw’n ddoeth. O wneud hynny, byddant yn lliwio’n gadarnhaol holl natur gweddill eich diwrnod chi.

bottom of page