

Wynford Ellis Owen
Dealing with fear
Dileu pob ofn
Rydyn ni’n mynd i edrych ar ofnau eto heddiw. Wrth wraidd pob un, wrth gwrs, mae ofn marwolaeth ac yn deillio o’r ofn hwnnw mae’r ddau ofn arall sydd wrth wraidd holl broblemau’r byd: yr ofn o golli beth sydd ganddon ni; a’r ofn o fethu cael yr hyn rydyn ni eisiau.
Rydyn ni’n mynd i gael gwared â’ch holl ofnau heddiw - drwy, yn gyntaf, greu pedair colofn ar ddalen o bapur A4.
Beth ydy’ch ofn chi heddiw? Sgwennwch o lawr yn y golofn gyntaf.
Pam ydych chi’n meddwl bod yr ofn yma ganddoch chi heddiw? Peidiwch â chymhlethu pethau’n ormodol - ond sgwennwch y rheswm yn yr ail golofn.
Yn y drydedd golofn, sgwennwch sut mae’r ofn arbennig yma yn effeithio’ch bywyd chi heddiw. Ydy o’n effeithio’ch hunan-werth (be ’dach chi’n feddwl o’ch hunan)? Eich perthynas â phobol eraill? Eich sicrwydd ariannol? Eich sicrwydd emosiynol? Eich perthynas rywiol, boed yn briodol neu’n amhriodol? Eich gobeithion am y dyfodol - yn gymdeithasol, yn rhywiol - neu’ch diogelwch mewn unrhyw ffordd? Os ydy’r ofn yn effeithio unrhyw un o’r rhain, nodwch hynny yn y drydedd golofn.
Yn y bedwaredd golofn, rydyn ni’n mynd i ofyn cwestiwn nad ydyn ni fel rheol yn arfer gofyn i ni’n hunain: beth ydw i wedi’i wneud i achosi’r ofn yma yn y lle cyntaf? Ydw i wedi bod yn hunanol mewn unrhyw ffordd? Yn anonest? Yn hunangeisiol (yn genfigennus o lwyddiant pobol eraill) ac ofnus? Neu ydw i wedi bod yn anystyriol? (Wrth ystyried ‘gonestrwydd’ mae’n bwysig eich bod yn holi’ch hunain i ba raddau y buoch yn onest yn y gorffennol gyda’ch teimladau a’ch meddyliau? Efallai ichi gelu’r gwir rhag y byd a rhoi’r argraff eich bod yn teimlo ac yn meddwl yn wahanol i’r hyn oeddech chi’n ei deimlo a’i feddwl mewn gwirionedd ar y pryd.)
Y WERS?
Adolygwch beth sydd wedi’i sgwennu yn y pedair colofn - drwy’u darllen yn araf o’r dechrau i’r diwedd. Yna, rwy’n addo i chi, bydd yr ofn yn eich gadael.
Pam? Oherwydd fel rwy’n deud, drosodd a throsodd, pan ’dach chi’n rhoi caniatâd i chi’ch hun deimlo’r teimlad, yna mae’r teimlad bob amser yn eich gadael. Wrth ateb y cwestiynau uchod, yr hyn ’dach chi wedi bod yn ei wneud yw eistedd gyda’r ofn - ac yn ddiarwybod i chi’ch hun - yn ei anrhydeddu. A dyna’r cwbl mae’n cymryd i ddileu pob ofn: ei gydnabod yn gyntaf ac wedyn ei anrhydeddu drwy dreulio ond ychydig eiliadau yn ei gwmni. Fe aiff wedyn, yn fodlon a hapus braf, i boeni rhyw druan arall.
