

Wynford Ellis Owen
Don’t do it
Mae angen osgoi gwneud hyn ar BOB cyfri’.
Un o’r pethau gwaethaf y medrwch chi neud ydy cymharu chi’ch hun â rhywun arall – cymharu cyflog, swydd, prydferthwch, a.y.y.b. Bob tro dach chi’n gwneud hynny dach chi’n dod allan ohoni’n waeth na’r person rydach chi’n cymharu’ch hun ag o neu hi.
Mae cymharu’ch hun â rhywun arall yn union 'run fath â rhoi crafiad hyll gyda sgriwdreifer ar draws y darlun perffaith rydach chi’n trio’i baentio o’ch hunan-werth. Unwaith dach chi’n ffeindio’ch hun yn cymharu’ch hun â rhywun arall, dwedwch “STOP!” Yna dowch â chi’ch hun yn ôl i’r foment yn gyflym.
Ffordd hawdd a handi iawn o wneud hynny ydy pwyntio at eich wyneb a chanolbwyntio ar flaen y bys sy’n pwyntio. Arhoswch fel yna am ychydig eiliadau ac fe ddaw hynny â chi yn ôl i’r foment - i’r presennol - a dod â’r cymharu i ben.
Meddyliwch yn galed wedyn am rywbeth ymarferol y medrwch chi’i wneud i rywun arall. Un o’r pethau hawsaf yw codi’r ffôn i holi sut hwyl sydd ar gymydog neu aelod arall o’r teulu. Gwnewch hynny - neu ryw weithred garedig, gymwynasgar arall - a byddwch yn ychwanegu llinell gywrain a phrydferth - yn hytrach na chrafiad hyll - i’r darlun perffaith rydach chi’n trio’i baentio o’ch hunan-werth.
Mae cymharu’ch hun â rhywun arall yn tanseilio’ch hunan-werth bob tro. Yn aml, gwnawn hynny’n ddiarwybod i ni’n hunain. Deffrwch i’r niwed rydach chi’n achosi i chi’ch hun - sef cael eich hun yn brin o rywbeth neu’i gilydd bob tro.
Mae’r un canlyniad negyddol, difäol, pan dach chi’n cymharu’ch eiddo chi i eiddo rhywun arall hefyd – tŷ, car, dodrefn, gwyliau a.y.y.b. Byddwch yn ddiolchgar am y bendithion sydd eisoes yn eich bywyd ac fe ofala hynny bod bendithion yfory yn parhau i lifo’n ddi-dor i’ch cyfeiriad a chyfoethogi’ch bywyd.
‘Cymharu a Difaru’ – y ddau ddrwg – ac mae’r naill yn dilyn y llall bob tro. X
