

Wynford Ellis Owen
Surrender
Y llais yn fy mhen
Yn Aberystwyth ym mis Gorffennaf 1992 pan sylweddolais i fy angen am help, un o’r pethau rhyfeddaf ddigwyddodd i mi oedd i mi glywed llais yn fy mhen yn sgrechian, “Mae popeth drosodd rwan. Mae popeth yn mynd i fod yn o’reit o hyn ymlaen.”
Ac mae’r llais dal gen i heddiw - yn cadarnhau, yn atgyfnerthu. A’r mwyaf dwi’n gwrando ac yn ufuddhau i’r llais, y gora, rywsut, ma’ ’mywyd i’n mynd.
Y WERS?
Petawn i’n edrych yn y drych a ddim yn gweld adlewyrchiad o fy wyneb, mi fyddwn i’n profi’r hen deimlad annifyr ‘na dwi’n cael weithiau pan dwi’n edrych ar y byd o’m cwmpas a ddim yn gweld adlewyrchiad o’r Creawdwr ynddo. Oni bai am y llais ‘ma yn fy mhen, sy’n siarad mor eglur â’m calon a’m cydwybod, mi fyddwn i’n anffyddiwr, mae’n debyg, wrth edrych ar y byd.
Be dach chi’n weld wrth edrych ar y byd? Ac ydach chi, tybed, wedi clywed y llais? Yn bwysicach, ydach chi wedi gwrando arno?
