

Wynford Ellis Owrn
Miracles and insights
Profiad ysbrydol dwys….
Cyfaill yn adrodd hanes hen wreigan gafodd bofiad ysbrydol dwys pan welodd dafodau arian yn dod o’r nen. Meddai fy nghyfaill, “Meddyliwch bod y ddynas na’n meddwl bod hi di gweld tafodau arian yn dod o'r nen, Wynford!”
“Ia, hynny’n drawiadol iawn” meddwn innau, gan ychwanegu, “Ond mae’n siŵr ei bod yn edrych allan am y ‘tafodau tân’. Mae’n rhaid inni edrych allan am y gwyrthiau drwy’r amser wrth iddynt ddigwydd yn barhaus o’n cwmpas.”
“Yn ôl ‘y Weddi Shalom rwy’n darllen yn ddyddiol, fe ddaw’r Ysbryd Sanctaidd mewn amryfal ffyrdd - ‘mor dyner â cholomen, fel tafodau o dân bywiol, mor dawel ag awel hwyrddydd haf, neu fel gwynt nerthol yn rhuo.’
“Dyna brofais i” meddwn, “y gwynt nerthol yn rhuo - tra ar encil yn Nhrefeca. O dawelwch yr hwyrddydd, ac wrth inni losgi llythyrau ’maddeuant’ Cam 8 a 9 mewn llosgydd ar y lawnt, yn sydyn o nunlle, daeth y corwynt swnllyd a nerthol yma a chwyrlïo’n ddramatig o gwmpas y fflamau nes eu bod yn ffrwydro a thasgu’n frawychus i’r nen. Fe barhaodd y cyfan am eiliadau lawer, cyn i’r corwynt ostegu yr un mor sydyn, gan ein dychwelyd i gyd i lonyddwch a distawrwydd rhiniol y nos. Mewn amrant aeth y seremoni syml yn sacrament i bob un ohonom.”
“Roedd o’n brofiad bythgofiadwy ac yn atgof i mi o’r hyn brofais i ar y stryd yn Aberystwyth ar yr 20fed o Orffennaf 1992 pan ddechreuais adfer o’m halcoholiaeth. Y Llais yn fy mhen yn deud bod popeth drosodd, ac y byddai popeth yn gweithio allan wedyn er daioni; y wybodaeth fod popeth yn berffaith fel ag y maent ac nad oes dim yn digwydd trwy gamgymeriad ym myd Duw; gadawodd ofn marwolaeth fi; a sylweddolais na allwn feio neb arall am fy nghyflwr - gan gynnwys fi fy hun. Roedd o fel llen yn cael ei godi i ddatgelu Gwirionedd oedd wedi bod yn gudd i mi tan hynny. Ac mae’r Gwirionedd yn parhau i gael ei ddatgelu imi - wrth imi dyfu’n fwy abl i’w ddeall a’i dderbyn.”
“Yn dilyn profiaf y ‘gwynt nerthol’ nid credu oeddwn i mwyach, ond gwybod fod Duw yn bod.”
A dyna’n sgwrs blygeiniol ni ar ddydd Gwener y 16eg o Fehefin ar ben wrth inni ddechrau o’n dau ar waith a dyletswyddau’r diwrnod newydd arall hwn. X
