top of page

Pa un ydach chi?

Grandfather with two grandsons

Wynford Ellis Owen

Life is to be enjoyed not endured

Nid be sy’n digwydd i ni sy’n bwysig, ond sut ydan ni’n ymateb i be sy’n digwydd i ni - dyna sy’n bwysig.


Dau hogyn bach yn chware yn y dŵr. Mwya sydyn mae ton anferth yn dod a chwalu dros eu penna nhw. Mae un hogyn bach yn rhedeg i fyny’r traeth at ei fam yn crio, “Mami, mami, mami! Dwi’m isio mynd yn agos i’r dŵr ‘na byth eto!” Ond mae’r hogyn bach arall wrth ei fodd yn sblashio yn y dŵr - yn cael amser gorau’i fywyd. Yr un don, sylwch - ond dau ymateb hollol wahanol. Mae un hogyn bach yn rhedeg i ffwrdd. Ond mae’r hogyn bach arall yn gwybod y gall o nofio, cadw’i ben uwchben y don, ac felly mae o’n medru mwynhau bod yn y dŵr.


Pa un o’r rheina ydach chi? Ydach chi’n un o’r rheiny sy’n rhedeg i ffwrdd, sy’n osgoi bywyd? Neu ydach chi’n un o’r rheiny sy’n aros yn y dŵr, mwynhau sblashio yn y dŵr, wrth eich bodd yn cyfrannu i glytwaith cyfoethog bywyd?


Rhywbeth i’w fwynhau yw bywyd, nid rhywbeth i’w osgoi.

Chi pia’r dewis heddiw.

bottom of page