top of page

Dychymyg / Imagination

Man & dog

Wynford Ellis Owen

Be careful

Y drwg anllywodraethus….


Dyw’r dychymyg ddim bob amser yn ffrind inni, mae’n gallu mynd â ni i lefydd rhyfedd a dychrynllyd iawn - pleserus, hefyd, hyd yn oed, ar adegau prin. Mae ambell un yn defnyddio’r dychymyg i adeiladu cestyll yn yr awyr - ac mae ambell un yn symud i mewn i fyw ynddyn nhw!


Dyma ddull llawer ohonom o ddianc rhag sefyllfaoedd, amgylchiadau, neu deimladau annymunol. Yn aml, nid oes gan blant sydd wedi dioddef plentyndod anodd, er enghraifft, atgof o gwbl o’r hyn ddigwyddodd iddynt, gan iddynt ddefnyddio’r dychymyg i ddianc i fyd ffantasi i osgoi’r dioddefaint. Dyma rôl alcohol a chyffuriau, gorweithio a gamblo ayyb, wrth gwrs - sef ein galluogi i ddianc dros dro rhag poenau a diflasrwydd y byd a rhag unrhyw atgof o’r trawma sylfaenol hwnnw - nad ydym yn cael ein caru, ein gwerthfawrogi, a’n trysori fel y byddem yn dymuno cael ein caru, ein gwerthfawrogi, a’n trysori.


Na, peidiwch byth â rhoi penrhyddid i’r dychymyg - drwg anllywodraethus ydyw, heb warthol a ‘sbardun y blaen ymennydd i reoli’i eithafion. Dyna pam nad oes ‘days off’ i’r rhai hynny ohonom sy’n adfer. Mae rhaid inni bob amser fod ar ein gwyliadwriaeth rhag gadael i’r dychymyg ddwyn oddi arnom y tawelwch meddwl hwnnw sydd ond i’w gael pan gyfyngir ar deyrnasiad y cenau afreolus!

Rhaid dysgu byw yn y foment - oddi yno y daw pob gwir greadigrwydd.


Dychmygu ein hunain i fod yn rhywbeth nad ydym ni ddim yw hanfod pob dibyniaeth ac achos pob dioddefaint. Y gamp yw dod i adnabod ein hunain yn ddigon da i byth eto adael i’r dychymyg ein twyllo ein bod yn rhywbeth nad ydym ni ddim, nac i adael iddo fynd â ni i lefydd na ddylem fod. X

bottom of page