

Wynford Ellis Owen
Recovery priority
Nodyn i’ch atgoffa…..
Bod yn ddiolchgar yw’r unig emosiwn nad oes unrhyw agenda’n perthyn iddo. O’r holl emosiynau, dyna’r perffeithiaf un. Mae o hefyd yn gallu symud eich egni a dod â mwy o’r hyn rydych ei angen i mewn i’ch bywyd. Byddwch yn ddiolchgar am yr hyn sydd ganddoch chi heddiw a bydd hynny’n denu mwy o bethau da i mewn i’ch bywyd. Mae hynny oherwydd bod Deddf Atyniad yn dal ar waith - y ddeddf sy’n tynnu ynghyd egnïon tebyg iddo’i hun - yn syniadau, meddyliau, pobl, sefyllfaoedd ac amgylchiadau.
Wrth ddeffro heddiw ro’n i’n diolch am gael cysgu’r nos ac am gael deffro i ddiwrnod newydd arall ac am bob un fendith sydd wedi dod i’m rhan ac am bopeth a ddaw. Ro’n i’n atgoffa fy hun bod popeth yn mynd i lifo’n rhwydd heddiw; bod popeth yn mynd i weithio allan yn union fel ma’ nhw i fod; ’mod i’n mynd i fod yn hapus, llawen a rhydd, ac yn hollol gyfforddus yn fy nghroen i fy hun; bod heddiw’n mynd i fod yn ddiwrnod gorau ’mywyd i.
Ydach chi’n cofio deud rhywbeth tebyg heddiw? Cofio? Nid yr hyn rydyn ni eto i’w ddysgu sy’n rhwystro’n taith ysbrydol ar yr hen ddaear yma ond yr hyn rydym eisoes wedi’i ddysgu - ond ddim bellach yn ei arfer. X
