

Wynford Ellis Owen
Mamyddiaeth a Dadyddiaeth
Derbyn gwirioneddau annifyr ac annymunol…
Gwae ni os gwnawn ni anwybyddu llais y plentyn bach y tu mewn i bob un ohonom. Dyna pam ’mod i’n disgrifio’r rhan fwyaf o’n problemau fel Mamyddiaeth, ac i raddau llai, Tadyddiaeth.
Mae o i gyd i wneud â maethu neu ddiffyg maethu - a’r gair bach holl bwysig hwnnw, cariad, y grym mwyaf creadigol sy’n bod yn y byd. Y ffaith amdani ydy na fedr Mam a Dad ein caru ni fel y bydden ni’n dymuno cael ein caru. Tydy o jest ddim yn eu rhodd nhw i fedru gwneud hynny. Felly maddeuant ydy’r ateb. Mae’n rhaid i ni i gyd faddau i’n rhieni. Ydy o’n gwneud synnwyr?
Y drafferth ydy bod y rhan fwyaf ohonom yn teimlo’n annheyrngar os awn ni i edrych yn ddyfnach i mewn i’n perthynas gyda’n mam a’n tad. Ond ‘dan ni’n ‘i neud o nid i feio a beirniadu, ond er mwyn deall yn well pam ein bod ni’n ymddwyn yn y ffordd rydan ni’n ymddwyn.
Taith o hunan-adnabyddiaeth ydy’r daith rydan ni’n mentro arni. A dyma jest un o’r pethau annifyr ac annymunol rheiny ‘dan ni’n gorfod eu derbyn wrth fentro ar y daith honno. Na, dyw Mam a Dad, ma’ gen i ofn, ddim wedi’ch caru chi fel y byddech chi wedi dymuno cael eich caru.
Heddiw felly, mae’n rhaid inni sylweddoli a derbyn y ffaith nad ein rhieni yw ffynhonnell y gwir gariad mae pob un ohonom yn chwilio amdano. Dim ond wedi inni ddod i’n hadnabod ni’n hunain ac amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr – y da a’r gwachul - y rhoir yr allwedd inni agor drws y galon i hwnnw.
