top of page

Cariad amodol / Conditional love

Grandfather with Elsi

Wynford Ellis Owen

Mumism and Dadism

Cariad amodol


Faint ohonoch chi sydd wedi tyfu fyny mewn teulu lle mae cariad amodol yn teyrnasu? Os ydach chi’n blentyn da yna ‘dach chi’n cael eich boddi mewn cariad. Ond os nad ydach chi’n blentyn da, yna mae’r cariad hwnnw’n cael ei atal.


Mae o’n ffordd effeithiol iawn o ddisgyblu plentyn. Y peth ofnadwy amdano ydy, does ond rhaid ichi neud o unwaith - mae bygwth y peth yn ddigon wedyn.


Mae llawer ohonom yn mynd i chwilio am y cariad diamod sydd wedi’i atal rhagom tu allan i ni’n hunain yn y byd a’i bethau - ac mae alcohol, cyffuriau, gamblo, rhyw, chwennych enwogrwydd neu gymeradwyaeth pobl eraill a.y.y.b., yn rhan o hynny.

Ymdebygu i’r hyn ’dan ni’n chwilio amdano yn unig mae’r pethau a’r sylweddau hyn, wrth gwrs – pethau’r byd - a thros dro

yn unig.


Yn y diwedd mae’n rhaid inni ddarganfod y cariad diamod coll hwnnw – angen y galon ddynol i gael ei charu amdani hi ei hun - y tu fewn i ni’n hunain - unwaith ’dan ni’n cysylltu â’r ymwybyddiaeth oesol sydd y tu fewn i bob un ohonom.


Y WERS?


Mae’r drws i hwnnw yn y man rhwng y ddwy ael.


Os canolbwyntiwch ar y llecyn hwnnw, canolbwynt pob crynhoad, fe ddarganfyddwch nerth ysbrydol anferthol a chymorth rhyfeddol oddi fewn. Teimlwch eich ymwybyddiaeth yn lledaenu ac ehangu. Teimlwch nad oes unrhyw rwystr, nac unrhyw ymlyniad i’r corff, ond eich bod yn teithio’n bellach ac yn ddyfnach i’r ymwybyddiaeth oesol.


Y drws i’r deyrnas gyfriniol honno yw’r llygad ysbrydol - honno sydd wedi’i lleoli rhwng y ddwy ael jest o dan eich talcen a mymryn uwchben pont eich trwyn. Mae’r deyrnas mor agos atoch â hynny!

bottom of page